Nifer yr eitemau: 138
, wrthi'n dangos 121 i 138.
Conwy
Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan ddeheuol Moryd Conwy, ac mae’n gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar ac ieir bach yr haf.
Conwy
Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng Nghonwy. Ni allwch golli’r tŷ lleiaf a byddech yn wallgof i beidio â bwrw’ch pen i mewn i gael golwg ar eich ffordd heibio.
Colwyn Bay
Darganfyddwch sut datblygodd Bae Colwyn a dysgwch fwy am dreftadaeth hanesyddol a diwylliannol gyfoethog y dref trwy gerdded trwy amser.
Betws-y-Coed
Mae’r daith yn dilyn hen lwybr y mwynwyr heibio i adfeilion Cloddfa Aberllyn cyn dod i Lyn Parc gyda golygfeydd hyfryd o Ddyffryn Conwy ar y ffordd yn ôl.
Penmaenmawr
Wedi’u lleoli mewn ardal drawiadol ar arfordir Gogledd Cymru nepell o’r A55. Gyda golygfeydd gwych o Ynys Môn ac Ynys Seiriol, mae traeth Penmaenmawr yn lleoliad poblogaidd iawn gydag ymwelwyr a thrigolion lleol.
Conwy
Porth Diwylliannol i Sir Conwy - Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth waliau tref ganoloesol ryfeddol Conwy.
Conwy
Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant gyda golygfeydd o Fynyddoedd y Carneddau, gallwch gerdded adfeilion canoloesol, rhostir a mwynhau cân y frân goesgoch ac ehedyddion.
Trefriw
Mae’r gylchdaith hon yn mynd â chi o amgylch Llyn Crafnant yng ngodidowgrwydd Parc Cenedlaethol Eryri uwchlaw pentref Trefriw yn Nyffryn Conwy.
Llandudno
Rydym yn annog amgylchedd cyfeillgar a pharchus lle gall holl ddringwyr herio eu hunain, o ddechreuwyr i ddringwyr profiadol ac uwch.
Llandudno
Ar y daith sain hunan-dywysedig hon gallwch ddarganfod yr amgylchedd, hanes, archeoleg ac atyniadau amrywiol sydd i’w gweld ar y Gogarth.
Llanrwst
Taith o tua 15 milltir (24 km) gyda llethrau cymedrol trwy bentrefi Betws-y-Coed, Penmachno, Capel Garmon, heibio i geunant Ffos Anoddun gyda golygfeydd gwych.
Llandudno
Caiff Taith Fawr y Gogarth ei weithredu gan fflyd fechan o fysiau hen ffasiwn i gludo gwesteion o amgylch Y Gogarth yn Llandudno.
Llandudno
Mwynhewch daith ar Gar Cebl Llandudno yn ystod eich ymweliad â'r gyrchfan hyfryd. Mae’r profiad unigryw hwn a agorwyd ar 30 Mehefin 1969 fel y system car cebl teithwyr hiraf ym Mhrydain.
Colwyn Bay
Oriel gelf a chrefft gymunedol yw The Bay Gallery, sy’n cael ei rhedeg fel elusen fach gan wirfoddolwyr lleol, gan gynnig cyfle i arlunwyr lleol arddangos a gwerthu eu gwaith. Mae’n cynnal dosbarthiadau a gweithdai celf wythnosol hefyd.
Edrychwch am y logo gwyrdd HistoryPoints ar waliau, ffenestri ac ati. Sganiwch y codau QR gyda’ch ffôn clyfar neu dabled i gael hanes cryno’r adeilad, y gofeb neu’r tirlun o'ch blaen o wefan HistoryPoints.org.
Llandudno
Mae Traeth Penmorfa yn Llandudno yn lle llawer tawelwch na Thraeth y Gogledd sy’n llawn bwrlwm. Dyma draeth tywodlyd sy’n boblogaidd iawn gyda phobl ar wyliau.
Llanrwst
Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi camargraff o’r tu mewn. Lle moethus ydyw sy’n cyfuno steiliau Gothig a Dadeni, gyda phulpud wedi’i addurno â ffigurau cerfiedig.
Betws-y-Coed
Taith gerdded gymhedrol/anodd drwy Goedwig Gwydir gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri.