Am
Taith gerdded Huw Tom, 6 milltir (9.6 cilomedr) o hyd o Benmaenmawr ar yr arfordir drwy’r mynyddoedd i Rowen, pentref bychan yn Nyffryn Conwy, gyda golygfeydd godidog o Ddyffryn Conwy, y Gogarth ac ar draws yr arfordir a Bae Lerpwl. Mae sawl allt serth hyd at 300m ar hyd y daith cyn i’r llwybr ddisgyn i lawr i bentref Rowen. Gallwch barcio eich car ym maes parcio’r llyfrgell ym Mhenmaenmawr. Gallwch brynu bwyd a diod ym Mhenmaenmawr a Rowen.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Suitability
- Teuluoedd