Am
Pum taith gerdded, o bellter amrywiol, o amgylch pentref Llanfairfechan ar arfordir y gogledd. Mae pob taith yn dechrau o’r maes parcio ar Ffordd yr Orsaf a gallwch brynu lluniaeth o’r siopau a’r tafarndai lleol. Dewiswch o’r canlynol:
Llwybr 1: O amgylch y Pentref - 3.5 milltir (5.6 cilomedr) ar ffyrdd a phalmentydd y pentref gyda rhai dringfeydd a disgyniadau graddol.
Llwybr 2: Glan y Môr Elias, Traeth Lafan - 3 milltir (4.8 cilomedr) ar lwybr gwastad ger yr arfordir. Addas i gadeiriau olwyn – bydd angen gofyn am agoriad ‘radar’.
Llwybr 3: Tyddyn Drycin - 2.6 milltir (4.6 cilomedr) ar ffyrdd, llwybrau glaswelltog a choetiroedd gyda rhai dringfeydd a disgyniadau graddol.
Llwybr 4: Rhiwiau - 3.4 milltir (5.5 cilomedr) ar ffyrdd eilaidd, traciau a llwybrau gyda rhai dringfeydd a disgyniadau cymhedrol; mae’r llwybr yn fwdlyd mewn mannau.
Llwybr 5: Garreg Fawr - 3.5 milltir (5.6 cilomedr) ar ffyrdd, ffyrdd B a llwybrau gyda rhai dringfeydd serth hyd at 364m/1194 troedfedd a disgyniadau.
Cyfleusterau
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
- Croesawgar i gŵn
- Yn y wlad
Suitability
- Teuluoedd