Gwylanedd Un a Dau

Am

Dwy fflat ddeulawr hunanddarpar fodern ar lan y môr. Lle i 2 neu 4 gysgu - gellir eu llogi’n unigol neu fel pâr.

Mae lleoliad Gwylanedd ar Bromenâd Llanfairfechan, ar Lwybr Arfordir Cymru a Llwybr Beicio Cenedlaethol 5, a cheir golygfeydd eang o fae Conwy ac Ynys Seiriol o’r ystafelloedd byw a’r ystafelloedd gwely.

I’r rhai hynny sydd wrth eu boddau â natur, mae gwarchodfeydd Glan y Môr Elias a Morfa Madryn o fewn pellter cerdded byr.

Mae Llanfairfechan, gyda mynediad hawdd i’r A55 a chludiant cyhoeddus da, yn lleoliad glan môr delfrydol a heddychlon ar gyfer gwyliau’n crwydro Eryri, y Carneddau, Ynys Môn a threfi Conwy a Llandudno gerllaw. Y mae llawer o adeiladau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a safleoedd Cadw o fewn taith hanner awr yn y car.

Mae mynediad at y traeth o fewn 50m - mae Gwylanedd yn lleoliad da ar gyfer chwaraeon dŵr fel ceufadu a phadlfyrddio drwy lanfa’r promenâd.

Mae gan y ddwy fflat olygfeydd eang dros y môr o’r lolfa a’r brif ystafell wely.

Mae gan Gwylanedd Un ystafell wely maint brenin ac ystafell wely bâr, ac mae gan Gwylanedd Dau ystafell wely maint brenin.

Mae’r ceginau modern, llawn cyfarpar, yn cynnwys peiriant golchi llestri, oergell a rhewgell maint llawn, peiriant golchi dillad, microdon a phopty.

Mae Wi-Fi cyflym a Netflix ar gael.

Gwres canolog nwy.

Mae gan Gwylanedd Un falconi gyda golygfa o’r môr.

Mae ystafell esgidiau fawr ym mhob fflat yn rhoi digonedd o le storio ar gyfer cesys a chotiau, ac mae detholiad o offer ar gyfer y traeth yno, gan gynnwys cysgod gwynt, cadeiriau glan môr, a bwcedi a rhawiau.

Mae gan Lanfairfechan gysylltiadau cludiant cyhoeddus da, ac mae gan y fflatiau leoedd parcio preifat oddi ar y ffordd.

Gallai’r naw gris at y drws a grisiau mewnol beri trafferthion i bobl â phroblemau symudedd. Dim anifeiliaid anwes. Dim ysmygu. Diwrnod cyrraedd / gadael: dydd Gwener. Mae gwyliau byr ar gael rhwng mis Hydref a mis Mawrth, ac ar y funud olaf yn ystod y tymor prysur - lleiafswm o 3 noson.

I archebu ffoniwch 07931 489600 / 01248 681365 neu anfon e-bost at jeanjones@gwylanedd.com.

Pris a Awgrymir

Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
2
Ystafell / Uned MathYstafell / Uned Tariff*
Fflato£300.00 i £700.00 fesul uned yr wythnos

*Fel canllaw, rhoddir prisiau fesul ystafell fesul noson ar gyfer gwestai, gwestai bach, gwely a brecwast, fflatiau â gwasanaeth a fesul wythnos am lety hunanddarpar.

Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.

Cyfleusterau

Arall

  • Bed linen provided
  • Gwres canolog
  • Parcio preifat
  • Short breaks available
  • Toilets on-site
  • TV in bedroom/unit
  • Washing machines available on-site
  • Wireless internet

Cyfleusterau Darparwyr

  • Wifi ar gael

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Gwylanedd Un a Dau

4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru Hunanddarpar
Cregyn, Shore Road, Llanfairfechan, Conwy, LL33 0BS

Ffôn: 01248 681365

Amseroedd Agor

Ar agor (1 Ion 2025 - 31 Rhag 2025)

Graddau

  • 4 Sêr Croeso Cymru
4 Sêr Croeso Cymru

Beth sydd Gerllaw

  1. Mae traeth tywod hir Llanfairfechan pan mae’r llanw’n isel yn hyfryd ar gyfer teuluoedd â…

    0.12 milltir i ffwrdd
  2. Traeth tywod hir gyda phromenâd sydd wedi’i adnewyddu yn ddiweddar. O Benmaenmawr fe…

    2.46 milltir i ffwrdd
  3. Ymunwch â ni ar daith trwy amser - taith a fydd yn mynd â ni yn ôl, dros filoedd o…

    2.56 milltir i ffwrdd
  4. Wedi’u lleoli mewn ardal drawiadol ar arfordir Gogledd Cymru nepell o’r A55. Gyda…

    2.64 milltir i ffwrdd
  1. Ar 150 erw o dir, gallwch fwynhau heddwch Pensychnant. Adeiladwyd o fewn Bwlch Sychnant…

    4.55 milltir i ffwrdd
  2. Mae Capel Seion yn enghraifft wych o gapel traddodiadol Cymreig a adeiladwyd yn ystod oes…

    5.22 milltir i ffwrdd
  3. Mae gan Erddi Dŵr Conwy a’r Tŷ Crempog bopeth. Yn Rowen, caiff y teulu cyfan ei ddiddanu,…

    5.58 milltir i ffwrdd
  4. Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a…

    6.25 milltir i ffwrdd
  5. Porth Diwylliannol i Sir Conwy - Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth…

    6.34 milltir i ffwrdd
  6. Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan…

    6.36 milltir i ffwrdd
  7. Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o…

    6.39 milltir i ffwrdd
  8. Lawrlwythwch y daflen hon am ddim a dechrau eich antur 80 munud drwy un o'r trefi…

    6.42 milltir i ffwrdd
  9. Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng…

    6.48 milltir i ffwrdd
  10. Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares,…

    6.5 milltir i ffwrdd
  11. Ar lan afon Conwy, ger Castell Conwy, mae Amgueddfa Cregyn Gleision Conwy yn llawn hanes…

    6.53 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....