Nifer yr eitemau: 1545
, wrthi'n dangos 1381 i 1400.
Llanrwst
Mae Bar a Bwyty’r Eagles yn arbenigo mewn bwyd Indiaidd, bwyd bar a mwy.
Rhos-on-Sea
Cartref pizzas wedi’u coginio ar dân yng Ngogledd Cymru. Pizzas wedi’u gwneud yn arbennig i bob archeb gan ddefnyddio cynhwysion lleol a’u pobi o’ch blaen yn ein poptai tân.
Llandudno
Mae WAVE Taxis & Private Hire yn fusnes tacsis a cherbydau hurio preifat bychan teuluol yn Llandudno, sy’n meddu ar y trwyddedau a’r yswiriant priodol. Mae WAVE yn cynnig dewis eang o wasanaethau cludiant.
Betws-y-Coed
Mae pob dyfais fodern i’w chael yn ein 3 bwthyn hunanarlwyo moethus. Lle i 1-4 o bobl gysgu. Dwy filltir o bentref prydferth Betws-y-Coed.
Llandudno
Bwyty Groegaidd a chyfleuster bwyd i fynd teuluol sy’n gweini bwyd Groegaidd cartref modern a thraddodiadol.
Cerrigydrudion
Mae’r llwybr hwn, sydd tua 15.2km o hyd, yn addas ar gyfer dechreuwyr a theuluoedd. Dechreua’r llwybr o brif faes parcio Canolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.
Llandudno
Mae’r Cliffbury yn cynnig llety gwely a brecwast gwobrwyedig o safon uchel sydd wedi’i leoli yn un o rodfeydd harddaf a thawelaf Llandudno.
Llandudno
Wedi ei sefydlu ym 1860, mae sioe Pwnsh a Jwdi hynaf Prydain yn cael ei pherfformio gan y pumed genhedlaeth o’r teulu Codman, gan ddefnyddio’r pypedau gwreiddiol a wnaed â llaw o froc môr oddi ar y traeth.
Conwy
Mae gan Erddi Dŵr Conwy a’r Tŷ Crempog bopeth. Yn Rowen, caiff y teulu cyfan ei ddiddanu, gyda thri llyn pysgota, taith gerdded, canolfan ddyfrol, a’r Tŷ Crempog yn gweini crempog melys a sawrus.
Abergele
Cartref eitemau pren wedi ei uwchgylchu a’i adfer i’r cartref a’r ardd.
Llandudno
Mae Cedar House yn Llandudno yn cynnwys fflatiau gwyliau hunangynhaliol. Pum munud ar droed i bier a phromenâd Llandudno, mae holl atyniadau’r dref yn agos at Cedar House.
Abergele
Beth am gael saib ar eich taith yng Nghaffi a Bar Castle View ar hyd y llwybr beicio ym Mhensarn. Croeso i bawb!
Let Tudno Tours show you the best of North Wales. You can book us for Private hire, or join one of our full or half day set tours such as Best of Anglesey, Snowdonia scenic drive or Caernarfon castle guided tour.
Llandudno
Mae White Tower yn fwyty Groegaidd yng nghanol Llandudno sy’n gweini bwyd cartref Groegaidd. Caiff pob pryd, salad, dipiau a phwdinau eu paratoi’n ddyddiol yn eu cegin a’u coginio fesul archeb.
Colwyn Bay
Mae Canolfan Planhigion, Anrhegion a Chrefft Bodnant ger gardd enwog 80 erw Bodnant. Dychmygwch gymryd darn bach o Fodnant adref gyda chi i’w fwynhau!
Colwyn Bay
Dafliad carreg o’r môr a thraeth hyfryd Porth Eirias y mae bistro Bryn Williams. Mae’r fwydlen yn llawn cynnyrch Cymreig sydd wedi cael ei gynhyrchu mor lleol â phosibl.
Abergele
Wedi ei leoli yn agos at y traeth yn Abergele, mae Parc Pentre Mawr yn barc trefol gweddol fawr yng nghanol ardal breswyl.
Conwy
Ers ei sefydlu yn 1998, mae’r siop dillad dylunwyr hon wedi bod yn gwerthu’r dillad merched gorau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru.