Nifer yr eitemau: 134
, wrthi'n dangos 121 i 134.
Mae’r llwybr 33 milltir ar draws Sir Gonwy yn rhan o Daith Pererin Gogledd Cymru, llwybr hanesyddol 130-milltir o hyd sy’n mynd o Abaty Dinas Basing i Ynys Enlli.
Sgôr Teithwyr TripAdvisor
1820 adolygiadauPenmachno
Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o tri o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro. Does dim angen unrhyw brofiad.
Colwyn Bay
Wedi ei leoli ym Mae Colwyn, gyda hanner can erw o barcdir prydferth, Parc Eirias ydi prif gyfleuster hamdden Conwy.
Trefriw
Mae’r gylchdaith hon yn mynd â chi o amgylch Llyn Crafnant yng ngodidowgrwydd Parc Cenedlaethol Eryri uwchlaw pentref Trefriw yn Nyffryn Conwy.
Cerrigydrudion
Mae ‘I fyny i’r Llyn’ yn daith feicio eithaf hir a mynyddig, tua 42 cilomedr, ac yn ddelfrydol ar gyfer dechreuwyr a beicwyr canolradd ac unrhyw un sydd am brofi ei stamina heb ormod o waith technegol.
Cerrigydrudion
Llwybr 3.5 cilomedr o hyd (dringo 60m), sy’n ymdroelli drwy Goedwig Clocaenog ac yn berffaith ar gyfer teuluoedd a dechreuwyr.
Pentrefoelas
Mae llyn dwfn naturiol Llyn Aled yng nghanol rhostiroedd uchel Hiraethog. Mae’n safle anial, ond hyfryd tu hwnt ac dyma un o’r llefydd gorau i bysgota cwrs yn yr ardal.
Conwy
Mae’r coetir cymysg deniadol hwn o 7.5 ha rhwng Parc Bodlondeb yng Nghonwy a glan ddeheuol Moryd Conwy, ac mae’n gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar ac ieir bach yr haf.
Llandudno
Ydi Llandudno yn cosi’ch chwilfrydedd? Ydych chi’n chwilio am weithgaredd anarferol i’w wneud yn yr awyr agored beth bynnag fo’r tywydd? Os ydych chi, beth am gael hwyl yn darganfod mwy am Landudno drwy ddilyn dwy daith dreftadaeth.
Betws-y-Coed
Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i ystod eang o weithgareddau a bywyd gwyllt.
Conwy
Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y bwriad oedd dominyddu a brawychu - ac mae’n dal i wneud ei waith, gan gystadlu â gorwelion garw Eryri ac ennill y frwydr am ein sylw.
Betws-y-Coed
Mae Llwybr Rhaeadr Ewynnol yn arwain drwy goetir i olygfan dros y rhaeadr - cewch olygfa fendigedig o’r ochr hon i’r afon felly peidiwch ag anghofio’ch camera.
Betws-y-Coed
Mae’r gyfres hon o lwybrau cerdded cyn dechrau o faes parcio Pont y Pair ym Metws-y-Coed ac yn arwain drwy Goedwig Gwydir.
Corwen
Mae Coedwig Clocaenog yng nghanol Mynydd Hiraethog ac mae’n ardal 6,000 hectar (15,000 acer) o faint. Dyma gynefin un o boblogaethau olaf y wiwer coch yng Nghymru ac mae’n ardal hollbwysig ar gyfer y rugiar ddu brin.