Am
Llys Ynadon oedd Neuadd y Dref yn flaenorol ac fe’i hadeiladwyd gan Walter Wiles, Pensaer Sirol Sir Ddinbych ym 1905-07; mae’n adeilad rhestredig Gradd II. Caeodd y Llysoedd yn y 1990au a daeth yn Neuadd y Dref ac mae’n dal i arddangos nifer o'i nodweddion gwreiddiol. Ar gyfer Drysau Agored, bydd artistiaid gweledol yn defnyddio’r arteffactau (a ddangosir yn y Siambr) fel ysbrydoliaeth ar gyfer gweithdy.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir plant
Cyfleusterau Digwyddiadau
- Mynediad am ddim
Nodweddion Darparwr
- Digwyddiad Dan Do
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus